Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod y dylai gwastraff bwyd fynd i’r cadi cegin, ond bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog o hyd. Mae taflu bwyd bwytadwy i ffwrdd yn costio ffortiwn inni, ond mae gan fwyd na ellir ei fwyta’r potensial i gael ei drawsnewid yn ynni, pan gaiff ei ailgylchu.
Sut mae gwastraff bwyd yn creu pŵer?
Pan gaiff ei gasglu o’ch cartref, caiff gwastraff bwyd ei gludo i gyfleuster ‘treulio anaerobig’ ble mae’r methan yn cael ei harneisio i greu bio-nwy, sy’n cynhyrchu ynni. Gwyliwch fideo Matt Pritchard i weld y broses anhygoel hon ar waith!
Ailgylcha dy wastraff bwyd fel pro – 5 tip gwych gan Matt i osgoi’r “ych a fi”
“Mae rhai pobl yn meddwl y gall ailgylchu gwastraff bwyd fod braidd yn ‘ych a fi’ – ond does dim rhaid iddo fod”. Mae ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon mewn gwirionedd, ac mae’n lanach na’i roi yn y bin. Galli osgoi’r elfen ych a fi drwy ddilyn tips gwych Matt.
Yn galw holl athrawon!
Gweithgaredd addysgol am ddim sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm â chystadleuaeth.

Os na alli di ei fwyta fe, ailgylcha fe!
Dysgwch sut i gwnewch i'ch bwyd fynd ymhellach a chreu pŵer.

Ailgylchu Ddoe a Heddiw – Stori Melba
Roedd Melba wedi ennill cystadleuaeth i ddangos pam roedd ailgylchu yn bwysig yn ystod y rhyfel.
