Skip to main content
English
English
2 images of a toddler in clothing on different beach settings

News & Campaigns

Sut gwnes i arbed arian a lleihau gwastraff gyda Vinted wrth baratoi ar gyfer fy mabi

Dyma Paige, o dîm Cymru yn Ailgylchu yn rhannu ei tips ar gyfer defnyddio @Vinted i osgoi prynu’n newydd sbon ac arbed arian wrth baratoi ar gyfer ei babi newydd:

eddwn i'n teimlo bod siopa ar gyfer fy mabi am fy ngorlethu pan roeddwn i’n feichiog gyda fy mabi cyntaf. Am fodau dynol mor fach, mae angen llawer iawn o bethau arnyn nhw!

Rhan fawr o baratoi ar gyfer y babi newydd oedd cael casgliad o ddillad a thecstilau. Mi fydd hyn yn hawdd, meddyliais yn naïf, nes i mi sylweddoli'r cymaint o eitemau y byddai eu hangen arno.

Mi fydd o angen festiau, siwtiau corff, sanau, cardiganau, blancedi lapio, hetiau, legins ... ac ati. roedd y rhestr yn teimlo'n ddiddiwedd!

Felly, fe wnaethon ni chwilio’r stryd fawr am ysbrydoliaeth, a doeddwn i ddim yn gallu credu cost eitemau a fyddai ond yn ffitio’r babi am ychydig fisoedd! Dyna pryd ddechreuodd fy siwrne Vinted...

2 screenshots of great Vinted deals, they're baby clothes

Dyma gipolwg ar rai o'r pethau a brynais i ar Vinted; fe wnes i edrych ar fy hanes archebion i wneud yn siŵr fy mod yn gywir am y dillad a'r prisiau.

Wrth chwilio am eitemau dillad, roeddwn i'n hidlo'r canlyniadau i 'Newydd gyda thagiau,' 'Newydd heb dagiau' ac weithiau 'Da iawn' os oeddwn i eisiau gweld mwy o opsiynau.

Tip arall yw edrych ar broffil y gwerthwr ar gyfer eitemau eraill cyn prynu, i weld a ellir prynu mwy o ddillad a chreu ‘bwndel', mae hyn yn ffordd dda o arbed ar gostau postio ac weithiau mae gan werthwyr ddisgownt bwndel a all amrywio o 5-20% oddi ar y pryniant cyfan.

Vinted

  • bwndel x5 babygro 0-3 mis £1, gyda chost postio: £4.37.

  • x2 amddiffynnydd matres basged Moses ac 1 cynfas ffitiedig £5, gyda chost postio: £8.58

  • x4 cynfas ffitiedig basged Moses £4.80, gyda chost postio: £8.37

  • x2 babygro gyda sip £2, gyda chost postio: £5.70

Cyfanswm cost = £27.02

Prisiau cyfartalog prynu’n newydd

  • Prisiau cyfartalog prynu’n newydd

  • x2 amddiffynnydd matres basged Moses £15

  • x2 cynfas ffitiedig basged Moses £8.99 (dyblu hwn, roedd gen i 4 yn fy mwndel)

  • x2 babygro gyda sip £12

Cyfanswm cost = £64.98

Pile of baby clothesa stack of colourful boys baby clothes, a cardboard box in the background with more clothes, shoes and a teddy

Fe welwn o’r cipolwg hwn ar eitemau fy mod i wedi arbed £37.96 a dim ond sampl bach yw hwn o blith yr holl eitemau a brynais iddo.

Mae yna risg wrth brynu gan bobl nad wyt ti’n eu hadnabod ar-lein, fodd bynnag, trwy wirio sgoriau ac adolygiadau proffiliau gwerthwyr, mae rhywfaint o gysur i’w gael os yw eu proffil yn 4-5 seren ac wedi cael adolygiadau da.

Os nad yw'r eitem(au) yn cyrraedd y safon, galli roi adborth. Fe wnes i hyn unwaith, gan uwchlwytho lluniau i ddangos nad oedd yr eitemau fel y'u hysbysebwyd (anfonwyd maint rhy fach i mi, roeddwn yn chwilio am ddillad babi mewn 6-9 mis, ac fe wnaeth y gwerthwr anfon rhai 0-3 mis); fe gefais i ad-daliad llawn. Dim ond un pryniant gwael allan o'r nifer o fwndeli llwyddiannus eraill, mae'n risg werth ei chymryd.

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon